
Dwi ‘di bwriadu ysgrifennu ar hwn ers amser. Ymddiheuriadau. Mae gen i gywilydd i sylwi nad ydw i wedi ysgrifennu ar hwn ers bron i flwyddyn bellach. Y rheswm pennaf am hyn ydy genedigaeth fy merch i, Hedydd Eidda … Continue reading
Dwi ‘di bwriadu ysgrifennu ar hwn ers amser. Ymddiheuriadau. Mae gen i gywilydd i sylwi nad ydw i wedi ysgrifennu ar hwn ers bron i flwyddyn bellach. Y rheswm pennaf am hyn ydy genedigaeth fy merch i, Hedydd Eidda … Continue reading
Mi fydd arddangosfa o’ng ngwaith i a’r arlunydd Elfyn Lewis yn agor yn Oriel Canfas, Canton, Caerdydd ar yr 17eg. Fe wnai bostio lluniau o’r sioe yn yr wythnosau nesaf yma. // An exhibition of work by myself, and the artist, Elfyn Lewis, will open on September the 17th. I’ll post some pictures during the upcoming weeks.
Made Bloomsbury was a beautiful fair and I met some great people… here’s a quick picture.
////////////
Mi oedd Made Bloomsbury yn sioe hyfryd ac fe wnes i gyfarfod llawer o bobl. Neis cael fy ngadael allan am ychydig! Dyma lun bach…
I’m very excited to announce that I’ll be exhibiting at a new fair called Made Bloomsbury during the last weekend of April. It’s held in the beautiful Mary Ward House on Tavistock Place, Bloomsbury and is organised by the great team who also run Made Brighton & Made Marlybone.
This is the first London fair that I’ve exhibited at in over 2 years (where does the time fly?!!) therefore I’ve very much looking forward to it and am also pleased to be showcasing some new wares.
/////////
Rwy’n falch iawn i gyhoeddi y byddaf yn arddangos mewn ffair newydd o’r enw Made Bloomsbury yn ystod penwythnos olaf mis Ebrill. Mae’n cael ei gynnal yn nhy hyfryd Mary Ward House yn Tavistock Place, Bloomsbury ac fe’i trefnir gan y tîm ardderchog sydd hefyd yn trefnu Made Brighton a Made Marylebone.
Dyma’r ffair yn gyntaf i mi arddangos ynddi yn Llundain ers dros 2 flynedd (i ble mae’r amser yn mynd? !!), felly dwi’n edrych ymlaen yn fawr i arddangos ond i hefyd allu dangos ychydig o waith newydd.
Fe agorodd yr arddangosfa, ‘W am Bapur Wal’ nos Wener (Medi 25ain) yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fod yn rhan o’r sioe.
Curadwyd yr arddangosfa gan Jane Audas a Gregory Parsons, ac mae’r sioe yn cynnwys gwaithgan : All The Fruits, Marthe Armitage, Deborah Bowness, Jon Burgerman, Claire Coles, Custhom, Lowri Davies, Hugh Dunford Wood, Eley Kishimoto, Sian Elin, Claire Florey-Hitchcox, Kirath Ghundoo, Jonny Hannah, Mark Hearld, Daniel Heath, Rachel Kelly, Tracy Kendall, Angie Lewin, George Malyckyj, Mini Moderns, Belynda Sharples, Squint, a Timorous Beasties. Mae yna gatalog hardd hefyd i gyd-fynd a’r arddangosfa.
Dyma ychydig o luniau o’r arddangosfa, gan gynnwys arddangosfa Susan O’Byrne sef ‘Pum Chwaer a Choeden Deuluol’. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y linc yma http://ruthincraftcentre.org.uk/whats-on/gallery-1/
//////////////////
The exhibition, ‘W for Wallpaper’ opened at Ruthin Craft Centre on Friday night (September the 25th) I feel very fortunate to be part of it.
Curated by Jane Audas and Gregory Parsons, the show includes the work of: All The Fruits, Marthe Armitage, Deborah Bowness, Jon Burgerman, Claire Coles, Custhom, Lowri Davies, Hugh Dunford Wood, Eley Kishimoto, Sian Elin, Claire Florey-Hitchcox, Kirath Ghundoo, Jonny Hannah, Mark Hearld, Daniel Heath, Rachel Kelly, Tracy Kendall, Angie Lewin, George Malyckyj, Mini Moderns, Belynda Sharples, Squint, and Timorous Beasties. The show is also accompanied by a beautiful catalogue.
Here’s a few pictures of the exhibition, including Susan O’Byrne’s exhibition ‘Five Sisters and a Family Tree’. For more information, follow this link http://ruthincraftcentre.org.uk/whats-on/gallery-1/
Ddechrau Awst, mi oedd hi’n wythnos Eisteddfod unwaith eto felly’n amser …a chrefft. Mi oedd hi’n Steddfod wych! Dyma’n 9fed blwyddyn ni ar faes y Brifwyl, ac mi oeddem ni’n falch iawn i allu dangos gwaith hyfryd gan Eleri Mills, Luned Rhys Parri, Llio James, Julia Griffiths Jones, Elin Horgan, Kay Morgan, Clare Collinson, Hannah Wardle, Nerea Martinez de Lecea a finnau. Dyma ychydig o luniau o’r stondin…
////////
In early August, it was time for the Eisteddfod once again, which also means that is was time for our ‘pop-up’ gallery ‘…a chrefft’. It was a great Steddfod too! This was our 9th year at the National Eisteddfod, and we were very pleased to be able to show work by Eleri Mills, Luned Rhys Parri, Llio James, Julia Griffiths Jones, Elin Horgan, Kay Morgan, Clare Collinson, Hannah Wardle , Nerea Martinez de Lecea and myself. Here’s a few pictures of the stand…
Roeddwn yn ffodus iawn i gael fy ngwahodd i arddangos gyda Chanolfan Grefft Rhuthun yn Collect eleni. Roedd y sioe i’w gweld penwythnos diwethaf (8-11 Mai) yn Oriel Saatchi, Llundain. Fe wnes i greu dau gasgliad newydd a dyma ychydig o luniau . Bydd y gwaith yn cael ei ddangos eto yn yr oriel ym mis Gorffennaf.
///////////////////////
I was very fortunate to be invited to show with Ruthin Craft Centre at Collect this year. The show was on last weekend (May 8-11) at the Saatchi Gallery in London. I made two new collections & here’s a few pictures. The work will be shown again at the gallery in July.
Y gwaith yn ‘Collect’ gyda un o ddarnau anhygoel Catrin Howell // My work in ‘Collect’ with one of Catrin Howell’s beautiful pieces
Fe agorodd sioe Bregus? yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar yr 16eg o’r mis yma. Arddangosfa gyffrous iawn o weithiau clai o gasgliadau’r Amgueddfa a dwi’n ffodus iawn o fod yn rhan ohoni. Mae yna dri darn comisiwn mawr yn y sioe gan Phoebe Cummings, Clare Twomey a Keith Harrison ac fe welir hefyd ddarnau comisiwn llai gan bedwar artist sy’n gweithio yng Nghymru, sef Claire Curneen, Walter Keeler, Adam Buick a finnau. Mi fydd y sioe ar agor tan yr Hydref ac fe geir hefyd ffilmiau am y broses o greu’r darnau ar wefan Culture Colony wrth ddilyn y linc yma: http://www.artplayer.tv/video/1129/fragile-bregus-promo-2
Dyma ychydig o flas o’r sioe:
////////////////////////////////////////////////////////////////////////
The exhibition, Fragile? opened on the 16th of this month at the National Museum in Cardiff. It’s an exciting show that celebrates clay, showcasing works from the Museum’s collections, and I’m very fortunate to be a part of it. The Museum have also commissioned major pieces by Keith Harrison, Phoebe Cummings and Clare Twomey, as well as smaller commissioned pieces by four artists that work in Wales: Claire Curneen, Walter Keeler, Adam Buick and me. The show will be open until October and there are also films by Culture Colony about the process of creating the works by following this link: http://www.artplayer.tv/video/1129/fragile-bregus-promo-2
Here’s a little taste of the show :
http://www.amgueddfacymru.ac.uk/caerdydd/digwyddiadau/?id=7948